Dydd Iau 26 Rhagfyr Gleision v Dreigiau (15.00 – YN FYW ar S4C / LIVE on S4C) Rhanbarthau dwyrain Cymru oedd yr enillwyr yn rownd un gornest mawr gyfnod darbis y Nadolig. Cipio buddugoliaeth gofiadwy dros y Scarlets gyda symudiad ola’r gêm oedd hanes y Dreigiau, tra bod Gleision Caerdydd wedi dangos agwedd hynod benderfynol i drechu’r Gweilch oddi cartref, er i dri chwaraewr dderbyn cerdyn melyn yn ystod yr 80 munud. Felly, mae’n argoeli i fod yn achlysur a hanner ar gae 3G Barc yr Arfau ddydd San Steffan, pan fydd y ddau dîm buddugol yn mynd benben â’i gilydd o flaen camerâu S4C. A gyda’r stadiwm bron wedi’i werthu allan yn barod, mi fydd awyrgylch tanbaid i’w gael yn y brifddinas. Bydd y cefnogwyr cartref yn gobeithio gweld yr wythwr anferthol Nick Williams yn dychwelyd i’r garfan ar ôl anaf, yn ogystal ag un o sêr tîm Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd, Josh Navidi. O safbwynt y Dreigiau, mae disgwyl i’r hyfforddwr Dean Ryan wneud newidiadau, gyda Ross Moriarty yn debygol o ddechrau’r gêm yn safle’r wythwr. Mae marc cwestiwn dros bresenoldeb blaenasgellwr dylanwadol arall, Ollie Griffiths, tra bod yr asgellwr Owen Jenkins yn annhebygol o chwarae ar ôl iddo ddioddef anaf i’w ffêr yn erbyn y Scarlets. Scarlets v Gweilch (17:15 nos Iau – i’w weld am 20.00 ar nos Wener 27 Rhagfyr ar S4C) Mi fydd Parc y Scarlets dan ei sang ddydd Iau ar gyfer gêm darbi y gorllewin yn erbyn y Gweilch. Mae dros 12,500 o docynnau eisoes wedi’u gwerthu ac mi fydd y mwyafrif o’r dorf yn gobeithio – ac yn disgwyl – i’r tîm gartref fynd â hi yn erbyn eu cymdogion, a’u gelynion pennaf. Bydd chwaraewyr y Scarlets yn cicio’i hunain am beidio gallu cymryd eu cyfleoedd yn erbyn y Dreigiau nos Sadwrn, felly mi fydden nhw’n fwy penderfynol byth yn erbyn yr Ospreyliaid. Does ddim angen atgoffa cefnogwyr y Gweilch am ba mor sâl mae’r tymor yma wedi bod iddyn nhw hyd yma, a tydi’r newyddion fod y canolwr Owen Watkin, allan am wyth wythnos arall wedi anaf, ddim yn mynd i godi ysbryd y garfan chwaith. Faint o obaith sydd ganddyn nhw o ennill yn Llanelli? Wel, gyda chynifer o’u chwaraewyr mwyaf bygythiol allan ohoni, y gobaith fwyaf sydd ganddyn nhw yw ceisio cadw hi’n gêm dynn. Mi fydd angen iddyn nhw sugno’r Scarlets i mewn i frwydr gorfforol a gorfodi camgymeriadau gan y tîm cartref, ac yna manteisio ar y cyfleoedd sy’n codi. Yn amlwg, mae’n haws dweud na gwneud, ond yw’r amodau’n wael ac os ydyn nhw’n gallu creu teimlad o rwystredigaeth ymysg cefnogwyr y Sosban, ella wedyn bydd ‘na lygedyn o obaith iddyn nhw.