## Dydd Gwener 22 Ionawr ## **Scarlets v Gleision Caerdydd – C/G 8.00pm (Yn Fyw ar S4C)** Llai na phythefnos ers i’r ddau dîm gwrdd yn Stadiwm Dinas Caerdydd, bydd y Scarlets a Gleision Caerdydd yn herio’i gilydd eto yn Llanelli. Os gawn ni hyd yn oed hanner yr adloniant a gawsom yn y brifddinas, mi fydd hon yn wledd arall i wylwyr S4C nos Wener! Gyda’r Chwe Gwlad ar y gorwel, dyma gyfle i’r chwaraewyr greu argraff funud olaf ar Wayne Pivac, ac mae digon o chwaraewyr rhyngwladol i’w weld yng ngharfanau’r ddau dîm. Y newyddion da i Pivac yw bydd Ken Owen a Josh Navidi yn dychwelyd i’r maes ar ôl anafiadau tymor hir. Bydd Jake Ball yn ôl i’r Scarlets hefyd ar ôl gwella o anaf i’w ben-glîn. Un person fydd ddim yn chwarae yw Liam Williams, sydd wedi ei wahardd ar ôl ei gerdyn coch yn y gêm ddiwethaf yn erbyn y Gleision. Er ei fod yn golled i’r Scarlets, bydd y digwyddiad efallai wedi dysgu gwers werthfawr i’r garfan; nad oes unrhyw le am ddiffyg disgyblaeth. Yn ddyn yn brin am weddill y gêm, fe aeth y Gleision ymlaen i ennill - ond phwy a ŵyr be fyddai’r canlyniad wedi bod tase’ Liam heb gael ei hel o’r maes. Mae gan y ddau dîm yma’r gallu i chwarae rygbi agored a phert, fel y gwelsom yn eu gêm ddiwethaf, ond y tîm fydd yn gallu rheoli’r meddiant a thiriogaeth orau ar y noson fydd yn fuddugol ym Mharc y Scarlets. Bydd pwyslais mawr ar yr haneri i lywio’r chwarae yn synhwyrol, ond hefyd i fanteisio ar unrhyw gyfle sy’n codi i ymosod - a gobeithio gwelwn ni ddigon o hynny unwaith eto! Dydd Sul 24 Ionawr **Connacht v Gweilch – C/G 3.00pm (I’w gweld ar S4C am 22.00 ar Nos Lun 25 Ionawr)** Wedi ennill dwy allan o dair dros gyfnod y Nadolig a’r flwyddyn newydd, bydd y Gweilch yn edrych ymlaen at ddychwelyd i’r maes draw yn Galway gwyntog dros y Sul. Mi fyddan nhw’n llwyr ymwybodol o’r her sydd yn ei disgwyl yno; fe lwyddodd Connacht i drechu’r pencampwyr Leinster ar domen eu hunain dair wythnos yn ôl - yr unig dîm i gyflawni hynny’r tymor yma. Gyda Dan Lydiate, Justin Tipuric, Alun Wyn Jones, Adam Beard, Rhodri Williams, George North ac Owen Watkin yn cael eu dewis yng ngharfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad, dyma gyfle olaf Toby Booth i ddefnyddio’i sêr rhyngwladol am gyfnod. Ac mi fydd y chwaraewyr yn awyddus i roi perfformiad i ddal llygaid hyfforddwyr Cymru cyn y Bencampwriaeth. Un arall fydd ar dân i roi perfformiad da bydd y mewnwr profiadol Rhys Webb, sydd wedi methu allan ar garfan Cymru y tro hwn - yn sicr fydd Booth yn gobeithio gweld ymateb positif ganddo yn y Sportsground. Gyda mannau gosod sefydlog a gêm chicio gywir, mae’r Gweilch yn sicr o gynnig her gorfforol i’r tîm gartref brynhawn ddydd Sul. Ond mi fydd Webb a Stephen Myler hefyd yn awyddus i ledu’r bêl er mwyn canfod yr olwyr peryg sydd gan y Gweilch. Os all North, Evans, Morgan a Protheroe gael eu dwylo ar y bêl yn ddigon aml, mi allan nhw’n sicr greu broblemau i unrhyw amddiffyn.