**Rownd 5 Guinness PRO14: Rhagolwg ar gemau rhanbarthau Cymru** **Dydd Sadwrn 7 Tachwedd** **Dreigiau v Connacht – Wedi ei Ohirio** **Dydd Sul 8 Tachwedd** **Gweilch v Leinster – CG 3.00pm (I’w weld am 22.00 ar nos Sul ar S4C)** Yn ôl i’r Liberty fydd hi i’r Gweilch bnawn dydd Sul ar gyfer her y pencampwyr, Leinster. Mae’r peiriant glas o Ddulyn ar rediad o 23 buddugoliaeth yn olynol, sydd yn record i’r cynghrair, ac wedi dechrau’r tymor hwn gyda phedwar buddugoliaeth a phedwar pwynt bonws. Felly mae’n saff dweud y byddan nhw’n llond llaw i’r Ospreyliaid - ond mae’n rhaid i rywun faeddu’r record perffaith yna rywbryd, yn does? Am gyfnod hir o’u gem yn erbyn Zebre nos Lun diwethaf, roedd y Gweilch yn edrych fel eu bod nhw dal ar yr awyren. Er iddyn nhw lusgo eu ffordd yn ôl fewn i’r gêm yn yr ail hanner, ni lwyddodd y Gweilch i sgorio’r cais hollbwysig a fyddai wedi cipio’r fuddugoliaeth yn y funud olaf. Mi fydd y perfformiad ac agwedd y tîm wedi bod yn rhwystredig i Toby Booth wylio ac mi fydd o’n sicr yn erfyn ar eu dîm i godi eu lefelau'r penwythnos hwn. Bydd rhaid iddyn nhw fod yn barod amdani o’r chwiban cyntaf ar ddydd Sul, oherwydd dyw Leinster ddim yn dîm sydd angen fwy nag un gwahoddiad i ymosod. **Scarlets v Zebre – CG 5.15pm (Yn fyw ar S4C)** Mae dechrau’r tymor hwn wedi bod yn un siomedig i’r Scarlets hyd yma. Roedd llawer yn darogan mai nhw fyddai’r rhanbarth â’r gallu i gystadlu â goreuon y gynghrair y tymor hwn, ond gydag un fuddugoliaeth allan o bedwar hyd yma, dydy’r canlyniadau heb adlewyrchu hynny. Ond maen nhw wedi rhoi sawl perfformiad sy’n awgrymu fod mwy i ddod ganddyn nhw. Er bod y pac dan y lach yn erbyn Caeredin benwythnos diwethaf, ac er iddyn nhw ildio nifer ryfeddol o giciau cosb, roedd y Scarlets yn y gêm hyd at y diwedd. Roedden nhw yn nwy-ar-hugain yr ymwelwyr yn y munudau olaf, ond yn methu â sgorio’r cais amhrisiadwy oedd angen arnynt i sicrhau’r fuddugoliaeth. Pe byddai nhw’n gallu gorffen eu gemau gyda phymtheg ar y cae, bydden nhw’n sicr heb golli tair gêm hyd yma. Am y drydedd gêm yn olynol, fe gafodd un o’u chwaraewyr ail reng eu hel oddi ar y cae ar ôl derbyn cerdyn coch. Doedd dim bwriad gan Josh Helps i achosi unrhyw anaf wrth daclo George Taylor nos Sul diwethaf, ond doedd dim amheuaeth fod y drosedd yn haeddu cerdyn coch. Felly wrth i Zebre ymweld â Llanelli'r penwythnos hwn beth fydd blaenoriaeth pennaf y tîm gartref? Cadw disgyblaeth. Os allan nhw lwyddo gwneud hynny, mi ddylai fod efo nhw ddigon ar y cae i drechu’r Parmanesi. **Dydd Llun 9 Tachwedd** **Caeredin v Gleision Caerdydd - CG 8.15pm** Dros y pythefnos diwethaf, mae’r Gleision wedi meistroli’r dechneg o golli yn bert; ond oes ganddyn nhw’n gallu i ennill yn hyll? Dyna fydd y nod iddyn nhw yn Murrayfield nos Lun, wrth iddyn nhw herio tîm corfforol Caeredin. Nos Lun yn erbyn Ulster, y Gleision oedd y tîm gorau am gyfnodau hir, heb os. Yn beryglus gyda’r bêl ac yn gryf wrth amddiffyn ar eu llinell, mi fyddai sawl un yn cytuno fe ddylai tîm John Mulvihill wedi ennill. Ond ar yr adegau pwysicaf, mae’n ymddangos fod ganddyn nhw ddiffyg rheolaeth ar y gêm, a dyna'r briodwedd sydd angen i ranbarth y brif ddinas wella arno fwyaf os ydynt am lenwi eu potensial sylweddol y tymor hwn. Wedi i’w buddugoliaeth yn Llanelli, mi fydd carfan Caeredin a’u sgrym pwerus yn hyderus ar gyfer y gêm nos Lun. Bydd rhaid i’r Gleision fod yn barod am frwydr a hanner. Dau dîm yn chwarae mewn dau ddull gwbl wahanol, mi ddylai hon fod yn un arall cyffrous i’r cefnogwyr - y gobaith i’r Gleision fydd i gael y canlyniad i fynd gyda’r perfformiad y tro hwn.