**Caeredin v Gleision Caerdydd (19.35 – i’w weld am 22.00 ar nos Lun 2 Mawrth ar S4C)** Mi fydd torf Parc yr Arfau wedi gadael ochenaid o ryddhad ddydd Sul diwethaf ar ôl gwylio’r tîm cartref yn trechu Benetton. Gyda’r Eidalwyr ar y blaen am gyfnodau hir, fe wnaethon nhw’n wych i gipio’r fuddugoliaeth mewn amodau heriol. Gyda nifer fawr o’u sêr rhyngwladol i ffwrdd, mi fydd John Mulvihill wedi ei blesio’n arw wrth weld ei garfan yn chwarae gydag agwedd benderfynol. Bydd rhaid dangos yr un ysbryd ym mhrifddinas yr Alban heno, wrth i’r Gleision herio’r tîm ar frig Adran B y Guinness PRO14, Caeredin - tîm sydd yn llawn hyder ar hyn o bryd. Mae tasg a hanner yn wynebu olwyr y Gleision - i stopio’r asgellwr mawr, Duhan van der Merwe rhag sgorio cais. Os allen nhw wneud hynny, efallai bydd ganddynt siawns o fachu canlyniad annisgwyl yn Murrayfield - ond mi fydd rhaid i’r blaenwyr hefyd fod ar eu gorau i rwystro pac corfforol Caeredin ar domen eu hunain. **Dydd Sadwrn 29 Chwefror** **Dreigiau v Cheetahs (17.15 - YN FYW ar S4C / LIVE on S4C)** Er colli oedd eu hanes yn Scotstoun yn erbyn tîm cryf Glasgow Warriors penwythnos ddiwethaf, fe ddangosodd y Dreigiau ddigon o galon ac awch i chwarae rygbi deniadol mewn amodau gwael. Roedd yr haneri, Rhodri Williams a Sam Davies, yn greadigol dros ben ac yn fygythiad drwy gydol y gêm ac maen nhw’n sicr yn dechrau ffurfio partneriaeth effeithiol dros ben. Ond, colled arall oedd y canlyniad, ar ddiwedd y dydd. Felly mi fydd yr hyfforddwr Dean Ryan yn galw ar ei chwaraewyr i godi ei gêm, tynhau’r amddiffyn a chymryd eu cyfleodd pan fo nhw’n ymddangos. Bydd Taine Basham yn ymuno ag Ollie Griffiths a Harri Keddie i ffurfio triawd hynod o gyffrous yn y rheng ôl. Mae’r Cheetahs eisoes wedi profi eu bod nhw’n dîm peryglus, ac ar ôl colli dwy yn olynol drosodd yn Iwerddon, mi fydden nhw’n targedu buddugoliaeth yn Rodney Parade, cyn iddyn nhw ddychwelyd i Dde Affrica. **Munster v Scarlets (17.00 – i’w weld am 15.40 ar ddydd Sul 1 Mawrth ar S4C)** Dyma gêm bwysig i’r Scarlets, wrth iddyn nhw anelu i sicrhau lle yn nhri safle uchaf Adran B y Guinness PRO 14. Byddai buddugoliaeth yn Munster yn eu codi i’r ail safle, uwchben y cochion, a mewn sefyllfa ffafriol i aros yn y tri uchaf. Byddai colled yn golygu aros yn y trydydd safle, ond dan fygythiad o gael eu tynnu mewn i frwydr i aros yno gan y tri tîm oddi tanyn nhw. Felly mi fyddai dychwelyd o Thomond Park wedi ennill yn reswm i ddathlu, i gefnogwyr y Sosban. Er i Liam Williams drosglwyddo yn ôl i’r rhanbarth yr wythnos yma, dydi o ddim yn y garfan y penwythnos yma, gwaetha’r modd, ond mae Aaron Shingler wedi ei ryddhau gan Wayne Pivac i chwarae. Mae Munster wedi enwi tîm profiadol ar gyfer y gêm gyda digon o bŵer yn y pac. Gyda’r rhagolygon tywydd yn darogan amodau gwael unwaith eto, mae’n debyg mai’r tîm all ennill y gwrthdrawiadau a gwneud penderfyniadau craff mewn meddiant, fydd yn fuddugol yn Limerick. **Benetton v Gweilch - (Wedi ei ohirio / Postponed)**