Rownd 6 Guinness PRO14: Rhagolwg ar gemau rhanbarthau Cymru ***Dydd Sadwrn 14 Tachwedd*** **Connacht v Scarlets – CG 7.35pm (I’w weld am 22.30 ar nos Sadwrn ar S4C)** Be ydi’r gair Cymraeg am tense, dwad? Oherwydd dyna’r ansoddair fwyaf addas i ddisgrifio diweddglo gêm Scarlets yn erbyn Zebre nos Sul diwethaf. Wedi dechreuad hyderus gan y Sosban, daeth yr Eidalwyr yn ôl mewn i’r gêm a bygwth cymryd y fuddugoliaeth - tan i gic hwyr Angus O’Brien selio’r fuddugoliaeth. Un peth fyddai’n sicr o fod wedi codi gwên ar wynebau’r cefnogwyr oedd perfformiad y blaen asgellwr ifanc, Jac Morgan - presenoldeb cryf yn y pac sydd efo dyfodol disglair o’i blaen. Ond fel tîm, doedd y perfformiad ddim yn un argyhoeddedig ac mi fydd Glenn Delaney yn erfyn ar ei garfan i godi ei lefelau unwaith eto ar gyfer y daith heriol i Iwerddon i wynebu Connacht. Dydd Sul 15 Tachwedd **Munster v Gweilch – CG 2.45pm (Yn fyw ar S4C)** Wedi perfformiad a chanlyniad siomedig oddi cartref yn erbyn Zebre pythefnos yn ôl, mi fyddai perfformiad y Gweilch yn erbyn Leinster ddydd Sul diwethaf wedi codi calonnau’r cefnogwyr ychydig. Er iddyn nhw golli yn erbyn y pencampwyr, fe ddechreuodd y tîm yn gryf ac fe wnaethon nhw barhau i frwydro drwy gydol yr 80 munud, a’r agwedd yna fydd wedi plesio’r tîm hyfforddi yn fwy na dim. Yn anffodus iddyn nhw, dyw pethau ddim yn mynd llawer yn haws y penwythnos yma, wrth iddyn nhw ymweld â Pharc Thomond i herio Munster - tîm arall sydd heb golli gêm eleni hyd yma. Mae’n hawdd rhagweld sut y bydd y Gwyddelod yn chwarae, ond nid yw’n hawdd i’w stopio nhw. Bydd y Gweilch yn sicr wedi treulio lot fawr o’r wythnos hon yn ymarfer amddiffyn yn erbyn sgarmesi symudol ac amddiffyn eu llinell am gyfnodau hir. Gobeithio fydd hynny yn talu ffordd ddydd Sul. Os allen nhw lwyddo i gyrraedd y lefel o ymrwymiad fe ddangoswyd y penwythnos ddiwethaf, neu hyd yn oed gwella arno, fe ddylai’r gêm hon fod yn un gystadleuol – gwyliwch y cyfan yn fyw ar S4C. ***Dydd Llun 16 Tachwedd*** **Gleision Caerdydd v Benetton - CG 7.45pm** Doedd John Mulvihill ddim yn hapus efo’i gefnwyr ar ôl eu colled yn erbyn Caeredin nos Lun diwethaf. Roedd y gêm ddiflas hon yn ddigon anodd i gefnogwyr y Gleision i’w gwylio, hyd yn oed cyn i’r niwl trwchus wneud hi bron yn amhosib dilyn y bêl yn yr ail hanner yn Murrayfield. Roedd camgymeriadau elfennol wrth gicio a thrafod y bêl yn cael eu hail-adrodd dro ar ôl tro, er mawr rwystredigaeth i’r hyfforddwr. Felly ar ôl ennill eu dwy gêm gyntaf o’r tymor, mae’r Gleision wedi colli eu tair gêm ddiwethaf. Mi fyddan nhw’n awyddus iawn i roi stop ar y rhediad sâl yna yn erbyn Benetton nos Lun, ond mi fydd rhaid iddyn nhw ddangos fwy o fygythiad tu ôl i’r sgrym. Y gobaith fydd i weld y triawd hynod beryglus o Jarrod Evans, Ray Lee-Lo a Willis Halaholo yn dychwelyd i’r maes ar ôl methu’r trip i Gaeredin tro diwethaf. Os ydyn nhw’n holliach erbyn nos Lun, bydd hynny’n hwb enfawr i’w gobeithion o drechu’r ymwelwyr ystyfnig o’r Eidal.