**Dydd Sul 22 Tachwedd** ***Gweilch v Benetton – C/G 1.45pm (I’w gweld am 22.00 ar nos Sul)*** Er iddyn nhw golli yn erbyn Leinster a Munster dros y pythefnos diwethaf, mi fydd agweddau o’r ddwy gêm wedi plesio cefnogwyr y Gweilch. Yn bennaf oll fydd perfformiadau Matt Protheroe. Mae’r cefnwr ifanc wedi disgleirio ers arwyddo o Fryste dros yr haf, ac wedi dod â sbarc amhrisiadwy i gêm ymosodol y Gweilch. Ond mi fyddai agweddau eraill o berfformiadau’r Gweilch wedi bod yn rhwystredig iawn i wylio. Drwy ildio ciciau cosb a gwneud camgymeriadau elfennol, fe wnaethon nhw bethau’n anodd iawn i’w hunain yn erbyn Munster penwythnos diwethaf a doedd ddim angen ail wahoddiad ar y tîm cartref i gymryd mantais. Felly y ffocws i dîm ifanc y Gweilch yn erbyn Benetton ddydd Sul fydd i wella disgyblaeth a dangos cywirdeb wrth drafod y bêl ac yn eu gêm gicio. Dyw’r Eidalwyr heb ddechrau’r tymor yn dda, ond ar eu diwrnod maen nhw’n dîm all herio unrhyw un yn y gynghrair, felly bydd rhaid bod yn wyliadwrus ohonynt drwy gydol yr 80 munud. Ond gyda George North wedi ei ryddhau gan Gymru i chwarae yn y gêm hon, mi fydd yr hyfforddwyr yn gobeithio gweld yr asgellwr yn ymuno gyda Protheroe a Luke Morgan i achosi problemau mawr i amddiffyn yr ymwelwyr. ***Leinster v Gleision Caerdydd – C/G 5.15pm (Yn fyw ar S4C)*** Ar ôl galwadau munud olaf Shane Lewis-Hughes a James Botham i garfan Cymru yn ddiweddar, allwch chi faddau i gefnogwyr Gleision Caerdydd am boeni os fydd absenoldebau pellach yn cael eu cyhoeddi ar drothwy’r gêm yn erbyn Leinster brynhawn dydd Sul. Gyda Kristian Dacey, Josh Turnbull, Jarrod Evans ac Owen Lane yn dal y llygad yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Benetton nos Lun, pwy fyddai’n beio Wayne Pivac am ystyried gwneud galwadau pellach o ranbarth y brifddinas? Cefnogwyr a hyfforddwyr y Gleision - dyna pwy! Bydd y pedwarawd dylanwadol yn debygol o fod ar gae’r RDS i herio’r pencampwyr y penwythnos yma, ac mi fydd yn rhaid iddyn nhw fod ar eu gorau i drechu’r tîm cartref. Mae’r newyddion fod Tomos Williams yn dychwelyd ar ôl gwella o anaf i’w ysgwydd yn hwb amserol. Mi fydd ei bresenoldeb yn cynnig sbarc ychwanegol i’r ymosod, ond mi fydd yn rhaid i’r blaenwyr sicrhau digon o bêl i roi’r cyfle i’r olwyr ddisgleirio - ac mae hynny’n her anferthol yn ei hun yn erbyn tîm o safon Leinster. Gwyliwch y cyfan yn fyw ar S4C brynhawn dydd Sul. ***Ulster v Scarlets – C/G 7.35pm (I’w gweld am 22.35 ar nos Lun)*** Ar ôl chwe rownd o’r tymor Guinness PRO14, mae’r bwlch rhwng taleithiau Iwerddon a gweddill y timau yn barod yn anferthol. Fel Leinster a Munster, mae Ulster wedi ennill pob gêm hyd yma ac maen nhw’n dîm sydd yn llawn hyder. Felly mi fydd ymweliad â’r Stadiwm Kingspan yn sialens fawr i unrhyw dîm ar hyn o bryd – a dyna’r her sy’n wynebu’r Scarlets nos Sul. Wedi dechreuad sigledig, mae tîm Glenn Delaney wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf, gartref yn erbyn Zebre ac oddi cartref yn erbyn Connacht. Gyda Johnny McNicholl yn cael ei ddewis dros Gymru yn dilyn ei berfformiad penwythnos diwethaf, mi fydd yna golled fawr ar ei ôl yn Belfast. Heb os, mi fydd yn rhaid iddyn nhw ddangos yr un agwedd benderfynol a welsom ganddyn nhw yn erbyn Connacht penwythnos diwethaf, i gael unrhyw lwyddiant allan o’r gêm hon. Mae Ulster yn dîm sydd â phac corfforol a threfnus, yn ogystal â llinell ôl llawn bygythiad, felly mi fydd yn rhaid i amddiffyn y Scarlets fod ar eu gêm o’r chwiban cyntaf. **Dydd Llun 23 Tachwedd** ***Dreigiau v Munster – Wedi ei gohirio***